Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol Cymru ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol ar 11 Tachwedd, 2015 - Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Yn bresennol: Bethan Jenkins AC, Muscular Dystrophy UK, Action Duchenne ac 20 o bobl â chyflyrau sy'n nychu'r cyhyrau a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Agorodd Bethan Jenkins AC y cyfarfod gan groesawu pawb a oedd yn bresennol.

Rhoddodd Jonathan Kingsley o Muscular Dystrophy UK, Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol, y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

·         Swydd newydd gan Muscular Dystrophy UK - Swyddog Gwybodaeth ac Eiriolaeth ar gyfer Cymru

·         Datblygiadau o ran yr hawl i gael Translarna

·         Archwiliad Muscular Dystrophy UK o'r gallu i gynnal treialon clinigol, a'i waith gydag elusennau eraill i ymdrin â phryderon bod canolfannau cyhyrau'n gorfod gwrthod treialon clinigol

Rhoddodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp Trawsbleidiol:

·         Methwyd ddwywaith â recriwtio i swydd cynghorwr gofal ar gyfer y de-orllewin ar secondiad

·         cyllid ychwanegol gwerth £52,000 ar gyfer cymorth cynghorwr gofal i gael ei rannu rhwng dwy swydd ran-amser i wneud pethau'n haws eu rheoli

·         Seicoleg a ffisiotherapi i oedolion - sicrhau bod cefnogaeth ar gael yn y system

·         Nid oes gan gynghorwyr gofal amser ar gyfer dysgu a datblygu, na rhannu profiadau achos

·         Cyfarfod rhwng Tracey a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, gyda'r nod o ryddhau adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth ym maes cynghorwyr gofal

·         2015-2016 - ystyried model arfer da yn y de-orllewin

·         Hefyd archwilio ffyrdd o ddefnyddio technoleg amser real, wyneb yn wyneb

·         Cyfarfod â Phrif Weithredwyr Byrddau Iechyd sydd wedi arwain at ddynodi arweinydd ar gyfer cyflyrau niwrogyhyrol yn 6 o'r 7 Bwrdd Iechyd

·         Er mwyn i gefnogaeth cynghorwyr gofal fod yn gynaliadwy, mae angen bod yn arloesol a chreu model sefydlog

Trafodaeth hawl i holi:

·         Potensial i wahanu cymorth pediatrig a chymorth i oedolion oherwydd capasiti

·         Archwilio’r gwahanol raddau o fewn y gwasanaeth cynghorwyr gofal

·         Angen datblygu perthynas ag awdurdodau lleol - manteisio ar y cysylltiadau drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru

·         Hyd yn oed gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnal, byddai rolau'n ymestyn y tu hwnt i hynny, i ardaloedd Byrddau Iechyd eraill

·         Mae angen datblygu'r drefn rheoli llinell gyda chefnogaeth weinyddol ar gyfer cynghorwyr gofal